Elin Jones
Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi gwelliannau i Fesur Cymru, gyda’r bwriad o sicrhau na fydd grym yn cael ei gymryd oddi ar y Senedd yng Nghymru.
Mae Elin Jones AC wedi ysgrifennu at Arglwyddi Cymru yn nodi pryderon am y Mesur, yn arbennig yr egwyddor gyfansoddiadol y dylai’r Cynulliad gytuno i unrhyw newid yn ei bwerau.
Mae pryderon ar hyn o bryd y gallai’r Mesur, sydd newydd gael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi, dynnu pwerau oddi ar y Cynulliad a’i fod yn rhy gymhleth a biwrocrataidd.
Problemau â’r Mesur
Mae gwelliannau Elin Jones yn mynd i’r afael â newidiadau yn y gofynion cydsyniad Gweinidogol, a fydd yn diddymu gallu’r Cynulliad i ddileu neu newid swyddogaethau un o Weinidogion Prydain mewn meysydd datganoledig a bennwyd ar ôl 2011.
Mae hyn yn berthnasol yn benodol i swyddogaethau Gweinidogion y Deyrnas Unedig o ran y Gymraeg.
Bydd hefyd yn cyflwyno cyfyngiad newydd, a fydd yn atal y Cynulliad rhag effeithio mewn unrhyw ffordd ar swyddogaethau awdurdodau eraill sy’n cael eu cadw yn ôl dan y drefn newydd.
“Er fy mod yn croesawu’r cynnydd a wnaed ar y Bil hyd yma, mae rhai materion yn parhau i fod heb eu datrys,” meddai’r Llywydd Elin Jones yn ei llythyr at Arglwyddi Cymru.
“Mae’r gwelliannau yr wyf wedi eu cyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn glir, ymarferol ac nad yw’n troi’r setliad [datganoli] presennol yn ôl.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn cyfrannu at y ddadl bwysig ar ddyfodol setliad cyfansoddiadol Cymru.”
Camau nesa’ Mesur Cymru
Y cam nesa’ i Fesur Cymru fydd i fynd trwy Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi, cyn cael ei ddarllen am y trydydd tro yn yr Ail Dŷ.
Yn Golwg yr wythnos hon, mae Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Guto Bebb, yn dweud bod gobaith y bydd y Mesur yn cael ei gyflwyno erbyn y Nadolig, ond pwysleisiodd nad oedd yn gallu bod yn sicr o hynny.