Mae Ken Thomas, canwr-gyfansoddwr o Gastell-nedd wedi cyfansoddi cân newydd ag iddi flas rhyngwladol ar gyfer Diwrnod Shwmae Su’mae, sydd i’w gynnal ddydd Sadwrn (Hydref 15).
Mae’r ymgyrch yn ei phedwaredd flwyddyn eleni, a’r nod ydi annog pobol i siarad a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gân yn galw ar bobloedd o bob cwr o’r byd i gael blas ar y Gymraeg.
Yn y fideo sy’n cyd-fynd â’r gân, mae Ken Thomas yn ein cyflwyno i bobol o bedwar ban byd, yn cynnwys Ffrainc a Botswana.
Fe fu’n sgwrsio â golwg360 am gefndir y gân ac am bwysigrwydd Diwrnod Shwmae Su’mae wrth hyrwyddo’r Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru ond ar y llwyfan rhyngwladol.
Gwerthu Cymru a’r Gymraeg i’r byd
Dywedodd wrth Golwg360: “Fi’n gweithio ar bwyllgor lleol Castell-nedd gyda Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot ac yn chwarae yn y band ‘Atsain’.
“Daeth y syniad am y gân o’r ffaith fod Diwrnod Shwmae Su’mae yn dod lan, a sut allen ni werthu Cymru a’r Gymraeg i bobol nid jyst yng Nghymru ond dros y byd i gyd.
“Mae cysylltiadau gyda fi trwy ‘ngwaith elusennol [elusen rygbi SOS KitAid], a dechreuais i ofyn i bobol wneud fideo bach jyst yn dweud ‘Shwmae’ a ‘Helo’ yn eu hiaith eu hunain.”
Yn ôl Ken, gall cerddoriaeth fod yn ffordd effeithiol o hybu iaith, nid yn unig yn genedlaethol ond yn rhyngwladol hefyd.
“Mae fel Dydd Miwsig Cymru. Beth mae’n meddwl yw bo ni’n cael siawns fel Cymry Cymraeg i ddangos i’r byd fod Cymru’n wlad ddwyieithog a bod eisiau i fwy o bobol ddefnyddio’u hiaith.
“Fel unrhyw beth arall, mae pobol yn hoffi miwsig. Os gallwch chi gael eich neges drosodd trwy ganeuon neu fiwsig, mae’n ffordd o hybu’r iaith.”