Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol am berygl y chwiw ddiweddaraf o wisgo i fyny fel clowniaid er mwyn codi ofn ar bobol.

Dywed Heddlu’r De y bydd yna “oblygiadau” i unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y fath weithgaredd.

Fe fu llu o achosion drwy wledydd Prydain dros yr wythnosau diwethaf, a nifer o adroddiadau yn ardal de Cymru dros y dyddiau diwethaf, meddai’r heddlu.

Dywedodd llefarydd: “Fe dderbynion ni nifer fach o adroddiadau tebyg yn lleol a hoffem atgoffa pobol y gall y math hwn o ymddygiad achosi pryder a gofid, yn enwedig i blant a’r henoed, ac fe allen nhw fod yn cyflawni trosedd.”