Mae disgwyl oedi am hyd at bum wythnos wrth i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei gwblhau ar Ffordd Yr Wyddgrug yn Wrecsam.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn chwe chyfnod – y tri chyfnod cyntaf ar y ffordd i mewn i Wrecsam, a’r tri chyfnod olaf yn canolbwyntio ar y ffordd allan.

Dywed Cyngor Wrecsam eu bod nhw wedi cymryd camau i leihau’r anghyfleustra i deithwyr, busnesau, y Cae Ras, Prifysgol Glyndŵr a thrigolion lleol.