Mae llwyddiant menter ddiweddara’r gwerthwr ceir, Gari Wyn, yn ddibynnol ar gael y criw iawn o bobol ifanc i redeg hen dafarn bentre’.
Bwriad Gari Wyn, perchennog busnes Ceir Cymru, ydi troi Y Bedol ym mhentre’ Bethel rhwng Caernarfon a Bangor, yn ganolfan gymunedol, yn cynnwys bar, bwyty a siop sy’n gwerthu bwyd lleol. I fyny’r grisiau, fe fydd yr hen ystafelloedd byw yn cael eu troi’n dri fflat i’w rhentu allan a chynyrchu incwm rheolaidd.
Mae’r cynlluniau newydd gael eu cyflwyno, ac mae Gari Wyn yn gobeithio agor y lle yn ystod y misoedd nesa’.
“Mae oes tafarnau drosodd, efallai am genhedlaeth,” meddai Gari Wyn wrth golwg360.
Gwrandewch ar Gari Wyn yn trafod ei gynlluniau yn fan hyn: