Mae nifer y bobol sydd dros 100 oed yng Nghymru ar ei nifer uchaf erioed, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ôl y ffigyrau, roedd tua 730 o bobl dros 100 oed yn byw yng Nghymru yn 2015. O’r rhain roedd tua 110 yn ddynion a 620 yn ferched er bod y bwlch rhwng oedran marw dynion a merched yn gostwng.

Mae’r nifer wedi dyblu, bron, mewn degawd, o gymharu â’r 460 o bobol dros 100 oed oedd yn byw yng Nghymru yn 2005.

Gweddill gwledydd Prydain

Ledled gwledydd Prydain, roedd 14,570 o bobol dros 100 oed yn 2015 – cynnydd o dros 65% yn y degawd diwethaf. Amcangyfrifir bod 850 o’r rhain yn 105 mlwydd oed neu drosodd, sy’n ddwbwl nifer 2005.

Meddai Pamela Cobb o Uned Dadansoddi Demograffig y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Mae nifer y bobol dros 100 oed yn y Deyrnas Unedig yn parhau i gynyddu o flwyddyn gan gyrraedd ychydig dros 14,500 yn 2015.

“Er bod y rhan fwyaf o’r hen iawn yn fenywod, mae nifer y dynion sy’n cyrraedd yr oedran hynaf yn cynyddu wrth i nifer marwolaethau’r dynion fynd i lawr.”