Lucy Inglis yn sôn am y cannoedd o negeseuon cas
Mae hanesydd ac awdures wnaeth ymosod ar yr iaith Gymraeg a’i siaradwyr mewn cyfres o negeseuon ar wefan Twitter, yn dweud iddi dderbyn “cannoedd” o negeseuon cas.

Cymaint, felly, nes ei bod wedi gorfod newid ‘Gosodiadau’ ei chyfri Trydar, er mwyn derbyn llai o negeseuon personol.

Echnos, roedd Lucy Inglis wedi cyhoeddi wrth ei 8,700 o ddilynwyr bod y Gymraeg yn “iaith sy’n cadw’r wlad mewn tlodi” a bod ei siaradwyr yn fwriadol droi o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn cau pobol allan o’r sgwrs. Gellir darllen y sylwadau yma.

Wrth ymateb i un neges, dywedodd ei bod hi wedi gorfod “ailosod fy hysbysiadau gan fod y cannoedd o hatemail ychydig yn ormod.”