Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i griw o ladron dynnu sylw dyn yn ei 80au a thorri i mewn i’w dy yn Rhiwderyn ger Casnewydd.

Fe wnaeth perchennog y tŷ ar Lon Springfield ateb y drws i ddyn nad oedd yn ei adnabod a fu’n cynnig gwneud gwaith adeiladu iddo tua 6yh ar 23 Medi. Ar yr adeg yma, mae’r heddlu yn credu bod dyn arall wedi torri i mewn i’r tŷ ac wedi dwyn gemwaith. Roedd trydydd dyn yn eistedd mewn car y tu allan.

Ni chafodd y dyn yn ei 80au ei anafu ond dywedodd yr heddlu ei fod wedi ei ddychryn.

Mae’r dyn a ddaeth i’r drws yn cael ei ddisgrifio fel dyn croenwyn yn ei 30au, gyda gwallt byr golau oedd yn siarad ag acen Wyddelig.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 187 24/03/16.