Gydag ychydig dros fis i fynd tan gemau cyfres yr hydref, mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud bod dros 60% o’r tocynnau i’r pedair gêm wedi gwerthu’n barod.
Rhwng Tachwedd 5 a 26, fe fydd Cymru’n wynebu Awstralia, Yr Ariannin, Japan a De Affrica yn Stadiwm y Principality. Mae 45,000 o docynnau eisoes wedi gwerthu i weld Cymru’n chwarae Japan a 46,000 wedi mynd i wylio gêm Awstralia.
Mae tocynnau rhad ar gael ar gyfer gemau Japan a’r Ariannin gydag Undeb Rygbi Cymru’n dweud ei bod hi’n bwysig rhoi cyfle i bawb wylio’r tîm cenedlaethol – yn enwedig gyda’r galw am docynnau i Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn tyfu bob blwyddyn.
Meddai llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: “Gyda thri o’r pedwar tîm gyrhaeddodd rowndiau cyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn dod i Gaerdydd yr hydref hwn, rydym unwaith eto yn edrych ymlaen am wledd o rygbi yn Stadiwm y Principality.
“Gyda phrisiau tocynnau wedi eu rhewi a dros hanner y stadiwm ar gael ar gyfraddau rhatach, ry’n ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau gwledd flasus ar gyfer teuluoedd rygbi o bob cwr o’r wlad.”