Treviso 27–11 Dreigiau

Mae dechrau siomedig y Dreigiau i’r tymor yn y Guinness Pro12 yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Treviso yn y Stadio Monigo nos Wener.

Dau bwynt oedd ynddi ar yr egwyl wedi cais yr un yn yr hanner cyntaf ond yr Eidalwyr aeth â hi yn gymharol gyfforddus yn y diwedd yn dilyn dau gais arall yn yr ail hanner.

Rhoddodd cic gosb Tomasso Allan y tîm cartref ar y blaen cyn i Tomaso Benvenuti groesi am eu cais agoriadol.

Ddeg pwynt ar ei hôl hi, fe gafwyd ymateb gan y Dreigiau wrth i gais Rynard Landman a chic gosb Angus O’Brien gau’r bwlch i ddau bwynt wrth droi.

Ymestynnodd Treviso eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner serch hynny wrth i gyn glo’r Gleision, Filo Paulo, groesi yn y gornel.

Rhoddodd cic gosb O’Brien lygedyn o obaith i’r Dreigiau wedi hynny, yn eu rhoi o fewn un sgôr gyda chwarter awr i fynd.

Ond Treviso a gafodd y gair olaf wrth i Marco Fuser groesi am gais hwyr i’r Eidalwyr, 27-11 y sgôr terfynol wedi trosiad Allan.

.

Treviso

Ceisiau: Tommaso Benvenuti 25’, Filo Paulo 47’, Marco Fuser, 78’

Trosiadau: Tommaso Allan 26’, 48’, 79’

Ciciau Cosb: Tomasso Allan 16’, 63’

.

Dreigiau

Ceisiau: Rynard Landman 27’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 40’, 66’