Mae ffordd ar gau yng Nghasnewydd yn dilyn damwain rhwng cerddwr a bws.

Mae Stryd y Gogledd wedi cau rhwng Caxton Place a Heol Railway a chredir mai dynes oedrannus fu’n rhan o’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Am oddeutu 15:09 derbyniodd Heddlu Gwent adroddiadau fod damwain ddifrifol wedi digwydd ar Stryd y Gogledd yng Nghasnewydd.

“Roedd y digwyddiad rhwng cerddwr benywaidd a bws.

“Bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau tra bod swyddogion ar y safle.”