Mae holl docynnau Cymru ar gyfer eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Awstria yn Stadiwm Ernst Happel yn Fienna ar Hydref 6 wedi cael eu gwerthu.

Roedd 2,776 o docynnau ar gael.

Mae’r tocynnau wedi cael eu gwerthu ar dri achlysur gwahanol – i gefnogwyr fu mewn o leiaf ddwy gêm ragbrofol neu gemau cyfeillgar oddi cartref yn y lle cyntaf (Medi 9), wedyn i gefnogwyr sydd wedi bod i o leiaf un gêm ragbrofol neu gyfeillgar oddi cartref yn yr ail gyfnod (Medi 15), ac yna i’r cyhoedd yn gyffredinol yn y trydydd cyfnod heddiw.

Roedd cefnogwyr wedi cael rhybudd y gallen nhw golli eu haelodaeth pe baen nhw’n gwerthu tocynnau blaenoriaeth ymlaen i gefnogwyr eraill.

Roedd y tocynnau ar gael heddiw am 12 o’r gloch, ac fe gawson nhw eu gwerthu o fewn 25 munud.

Cafodd yr holl docynnau ar gyfer eu gemau cartref eu gwrthu o fewn ychydig ddiwrnodau fis diwethaf.

Dechreuodd ymgyrch Cymru gyda buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Moldofa yn Stadiwm Dinas Caerdydd.