Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwario bron i £850 eleni ar barti ffarwelio â’r Is-Ganghellor, April McMahon.

Mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ynglyn â’r digwyddiad a gynhaliwyd ar ddiwedd tymor yr haf, fe ddaeth cadarnhad fod prynu bwyd a diod ar gyfer y parti awyr agored a drefnwyd gan y Brifysgol, wedi costio £843.65 yn union.

Roedd hynny’n cynnwys “diodydd oer a theisenni bychain a gafodd eu prynu i mewn”, meddai’r Coleg Ger y Lli, ond doedd y digwyddiad ddim wedi costio ceiniog o ran talu am oriau staff a gwaith paratoi na glanhau.

“Roedd dau aelod o staff yno’n gweinyddu diodydd,” meddai ateb y Brifysgol, ac roedd y rheiny’n “staff llawn amser a fyddai wedi bod yn gweithio beth bynnag”, felly doedd dim costau ychwanegol o ran gweini.

Is-ganghellor nesa’

Mae’r Athro McMahon wedi bod wrth lyw’r Brifysgol ers 2011, fe adawodd ei swydd ym mis Gorffennaf eleni.

Er i’r Albanes wneud argraff dda ar y dechrau trwy fynd ati i ddysgu Cymraeg, fe ddaeth yn amhoblogaidd gyda staff a myfyrwyr tua diwedd ei chyfnod, gyda rhai’n mynd mor bell â dweud ei bod yn rhedeg y coleg “fel unben”.

Un o ddirprwy is-gangellorion y Brifysgol, John Grattan, a ddaeth yn ei lle fel Is-ganghellor dros dro, ond does dim manylion wedi’u cyhoeddi eto ar bwy fydd yn ei dilyn yn barhaol.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud y bydd yn rhaid i’r Is-ganghellor newydd fedru’r Gymraeg, at lefel y byddai’n gallu deall Cymraeg mewn cyfarfodydd, mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.