Cafodd rali ‘Sefyll fel Un’ ei chynnal yn Sgwâr y Castell, Abertawe fore Sadwrn i ddangos cefnogaeth i ffoaduriaid ar drothwy dwy uwchgynhadledd yn Efrog Newydd.

Mae digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y byd i ddangos i amryw lywodraeth bod angen gwneud mwy i gefnogi ffoaduriaid.

Yn ôl Oxfam Cymru, cawson nhw eu hysbrydoli i drefnu’r digwyddiad ar ôl gweld delweddau o gorff bachgen tair oed, Aylan Kurdi ar draeth yn Nhwrci.

Mae miloedd o bobol, gan gynnwys cannoedd o blant, yn parhau i golli eu bywydau.

Fe fydd dwy uwchgynhadledd yn Efrog Newydd ddydd Llun a dydd Mawrth i drafod y sefyllfa.

Roedd Oxfam Cymru wedi gwahodd nifer o ysgolion lleol i gymryd rhan yn y rali drwy lunio eu neges eu hunain am sefyllfa’r ffoaduriaid i’w darllen yn ystod y digwyddiad.

Ddydd Mawrth, fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn arwain cyfarfod o arweinwyr gwleidyddol, fydd yn galw ar lywodraethau’r byd i ddod ynghyd i greu strategaeth i fynd i’r afael â sefyllfa’r ffoaduriaid.