Llys y Goron Abertawe
Mae cwmni sy’n gyfrifol am burfa olew yn Aberdaugleddau wedi cael dirwy o £400,000 heddiw am dorri rheolau iechyd a diogelwch bedair blynedd yn ôl.

Fe ddaeth i’r amlwg nad oedd y cwmni Valero Energy wedi dilyn yr holl reolau iechyd a diogelwch ar eu safle yn Rhoscrowdder yn dilyn ymchwiliad i ddamwain a ddigwyddodd yno ar 5 Mawrth 2012.

Clywodd Llys y Goron Abertawe heddiw fod David Thomas, 55 oed, a arferai weithio yno wedi dioddef anafiadau i’w goesau ac nad oedd wedi medru dychwelyd i’r gwaith wedi’r ddamwain.

Roedd wedi cwympo o rodfa oedd yn gysylltiedig â thancer oedd yn dadlwytho yn y burfa.

Dywedodd y barnwr Peter Heywood, tra bod problemau sylweddol gyda’r modd y cafodd y rhodfa ei gynllunio, roedd Valero wedi methu a gweithredu ar ôl cyfres o ddigwyddiadau.

Dywedodd Mark Watson ar ran Valero bod gan y cwmni record ddiogelwch wych ac nad oedd y rhodfa bellach yn cael ei ddefnyddio ac roedd system arall yn cael ei gynllunio.