Bad achub Llun: Gwylwyr y Glannau
Mae gwylwyr y glannau wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu galw yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi mynd i drafferthion yn y môr ger y prom yn Aberystwyth.

Fe ddywedodd Heddlu Dyfed Powys bod swyddogion ar y safle ac mae’n debyg bod ambiwlans yno hefyd.

Mae gwasanaeth bad achub Aberystwyth wedi trydar yn dweud bod y bad wedi cael ei anfon i achub dau berson yn y dŵr.

“Bydd mwy o fanylion ar gael wrth i ni eu cael,” meddai’r neges ar Twitter.

Rhagor o wybodaeth i ddilyn…