Cwch yn cludo ffoaduriaid Llun: PA
Cafodd 3,000 o ffoaduriaid eu hachub o Fôr y Canoldir ddydd Mawrth, sy’n golygu bod 10,000 o bobol wedi cael eu hachub yn yr ardal dros gyfnod o 48 awr.
Dywedodd yr awdurdodau fod 30 o achosion gwahanol yn cael sylw gwylwyr y glannau yn yr Eidal.
Ddydd Llun, roedd 35 o wahanol achosion, gyda 200 ar un llong ac un arall yn cludo 704 o bobol wedi cael eu hachub.
Cafwyd hyd i ddau gorff ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Mae cannoedd o bobol yn aros i gael eu cludo i ddiogelwch Brindisi oddi ar yr arfordir, a nifer o fabanod yn eu plith.
Tan ddydd Llun, roedd nifer cymharol fach o ffoaduriaid wedi cael eu hachub yn ystod mis Awst – tua 12,600 o’i gymharu â 23,500 fis Awst y llynedd.
Yr Eidal bellach yw prif gyrchfan ffoaduriaid sy’n ceisio croesi i mewn i Ewrop, a hynny am fod Gwlad Groeg wedi diogelu ei ffiniau erbyn hyn.
Mae 163,000 o bobol wedi cyrraedd Gwlad Groeg o Affrica ers dechrau’r flwyddyn, o’i gymharu â 234,000 yn wyth mis cyntaf 2015.