Geraint Jarman yng Ngwyl Crug Mawr. Llun - Guto Vaughan
Eleni oedd “y flwyddyn orau eto” yn hanes gŵyl gerddorol ar gyrion Aberteifi, yn ôl un o’r trefnwyr.
Er bod Gŵyl Crug Mawr wedi’i chynnal ar fferm Oernant ers pedair blynedd bellach, dywedodd y perchennog Richard Jones mai eleni oedd y flwyddyn orau o ran denu cynulleidfa a gwneud elw.
Esboniodd nad yw’r ŵyl yn derbyn yr un grant, ond ei fod yn awyddus i’w chynnal bob blwyddyn er mwyn cynnig digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngodre Ceredigion.
‘Prinder digwyddiadau Cymraeg’
Ag yntau’n ffermwr llaeth, roedd Richard Jones yn cydnabod fod cyflwr y farchnad yn fregus ar hyn o bryd a’i bod yn dalcen caled i wneud elw.
Ond, esboniodd nad cynllun i arallgyfeirio oedd yr ŵyl ar dir ei fferm gan ddweud fod unrhyw incwm a wnâi yn cael ei fuddsoddi ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Am hynny, “un o’r prif resymau dw i’n credu ei bod hi’n bwysig i gynnal yr ŵyl yw bod prinder digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal,” meddai.
“Mae e hefyd yn frêc i minnau ac yn her i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol na threfnu’r da godro bob dydd o’r flwyddyn.”
Crug Mawr
Mae’r ŵyl yn rhannu’r un enw ag un o frwydrau mwyaf arwyddocaol Cymru gafodd ei chynnal ar dir y fferm yn 1136, lle daeth gwŷr y Gogledd a’r Deheubarth ynghyd i herio’r Normaniaid a’u trechu.
“Dyna’r tro cyntaf i ogledd a deheubarth Cymru weithio gyda’i gilydd yn erbyn y Normaniaid – ac fe enillon nhw.
“Doeddwn i ddim yn gwybod dim am yr hanes, ac oeddwn i’n teimlo ei fod e’n bwysig i dynnu sylw ato,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn cael dysgu am bethau fel hyn yn yr ysgol, ac rwy’n gobeithio fod yr ŵyl yn cynnig pleser a hefyd yn ennyn ychydig o drafodaeth.”
Prif artistiaid yr ŵyl gafodd ei chynnal dros benwythnos gŵyl y banc oedd Geraint Jarman, Y Bandana, Ail Symudiad, Ffug, Bromas a Fleur De Lys.