Yr actor Gene Wilder, Llun: John Stillwell/PA Wire
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i’r actor Gene Wilder, sydd wedi marw yn 83 oed.
Roedd Wilder yn adnabyddus am ei ran mewn clasuron fel Willy Wonka & The Chocolate Factory, Young Frankenstein a Blazing Saddles.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel un o “dalentau mwyaf” ei genhedlaeth.
Dywedodd ei deulu bod Gene Wilder wedi marw yn ei gartref yn Stamford, Connecticut ar ôl bod yn dioddef o glefyd Alzheimer ers tair blynedd.
Ym 1968 cafodd Wilder ei enwebu am Oscar am ei rôl yn y ffilm The Producers, a gafodd ei chyfarwyddo gan ei ffrind Mel Brooks.
Dywedodd yr actor Jim Carrey bod Wilder yn un o’r actorion “mwyaf doniol ac egnïol erioed.”
Wrth roi teyrnged i Wilder, meddai’r actor Russell Crowe ei fod wedi gweld Blazing Saddles saith gwaith yn y sinema gyda’i ffrindiau gan ddisgrifio Wilder fel “athrylith”.