Bydd Yws Gwynedd yn Amlwch heno
Pan gychwynnodd hi yn 2006, gŵyl fechan undydd hefo pedwar band yn canu ar lwyfan ar gefn telar oedd Gŵyl Gopr Amlwch.

Ond eleni, mae disgwyl i tua 4,000 o bobol ddod i wylio rhai o enwau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg dros bedair noson – ac mae’r cyfan am ddim.

Mae’r trefnwyr yn dibynnu ar noddwyr a charedigrwydd y trigolion lleol i gynnal yr ŵyl. Y cwmni ynni morol Celtic Array yw’r prif gyfranwyr ariannol eleni.

Dechreuodd yr ŵyl neithiwr gyda noson glasurol yng nghwmni’r tenor Rhys Meirion. Roedd artistiaid eraill yn cynnwys Sioned Terry, Siobhan Owen, Côr Meibion y Foel, Scarlett Quigle, Sophie Jayne a Gruffydd Wyn.

Heno bydd Yws Gwynedd, Ed Holden, Candelas, Y Bandana a Fleur de Lys yn perfformio ar y llwyfan mewn noson Gymraeg a bydd bandiau teyrnged Abba Chique, The Pretend Beatles a Stereosonics yn canu nos yfory.

Bydd y penwythnos yn dod i ben nos Sul gyda perfformiadau gan Bryn Fôn a’r Band, Geraint Jarman ac Elin Fflur a’r Band.

Mae’r trefnwyr yn annog pobl sy’n teithio i’r wŷl i ddefnyddio’r meysydd parcio yn y dref ac i barchu trigolion lleol wrth beidio parcio ar balmentydd ac eiddo preifat.

Mae rhagor o wybodaeth yma: www.gwylgopr.co.uk/