Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Owen Smith wedi cael ei groesholi gan ddefnyddwyr Mumsnet a’i feirniadu am ei farn am ferched ar ôl sylwadau a wnaeth am y Prif Weinidog Theresa May.

Cafodd AS Pontypridd hefyd ei gyhuddo o “gasáu merched” ac o beidio â sylweddoli effaith trais yn erbyn menywod.

Wrth amddiffyn ei hun a’i ddatganiadau, mynnodd Owen Smith ei fod yn “ffeminydd” ac fe ymddiheurodd am ddefnyddio “iaith drwsgl” pan wnaeth ei sylwadau am Theresa May.

‘Dyletswydd’

Roedd Owen Smith yn dilyn ôl troed gwleidyddion, gan gynnwys David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg, drwy gael sgwrs fyw gyda defnyddwyr y wefan boblogaidd.

Dywedodd  Owen Smith hefyd ei fod yn “ymwybodol iawn o’r broblem o drais yn erbyn menywod a merched”.

Ychwanegodd: “Rwy’n derbyn fod gennym ni, wleidyddion, ddyletswydd i gymryd gofal ychwanegol gyda’n hiaith fel nad ydyn ni’n ymddangos yn ansensitif i’r broblem go iawn yma.”

Ond er iddo wynebu trywydd caled o gwestiynu, llwyddodd i beidio ag ailadrodd methiant y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown i ateb cwestiwn enwog Mumsnet am ei hoff fisged.

‘Garibaldi’

Dywedodd Owen Smith mai ei hoff fisged yw’r “custard cream” gan ychwanegu ei fod yn hoffi cael Garibaldi gan ei nain pan oedd yn blentyn oherwydd “mae’n rhaid i chi hoffi bisged sy’ wedi ei enwi ar ôl chwyldroadwr.”

Datgelodd hefyd y bydd ei arddull o arwain y blaid yn fwy fel John Smith na Tony Blair os yw’n fuddugol.