Coedwig law (Llun: Maint Cymru)
Mae elusen amgylcheddol o Gymru yn bwriadu amddiffyn un o goedwigoedd glaw de America sydd yr un maint â Chymru.

Bwriad yr elusen ‘Maint Cymru’ ydy gweithio i ddiogelu dau brosiect sy’n cwmpasu dros 2 filiwn hectar o fasn yr Amason, y naill ym Mheriw a’r llall yn Guyana.

Mae’r elusen o Gaerdydd eisoes wedi helpu i blannu dros 4 miliwn o goed yn Ne America, ac fe fyddan nhw’n canolbwyntio’n awr ar y prosiect newydd ym Mheriw.

Cefnogi grwpiau brodorol

Mae’r elusen hefyd yn cydweithio â’r rhaglen Forest Peoples i gefnogi’r grwpiau brodorol, sef y Wampis ym Mheriw a’r Wapichan yn Guyana.

“Mae’n bleser i ddweud ein bod yn helpu i amddiffyn ardal o goedwig law maint Cymru yn Ne America, ac i gefnogi’r cymunedau gwerth chweil yma,” meddai Lowri Jenkins, Rheolwr dros dro Maint Cymru.

“Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar brosiectau newydd yn Affrica, bydd yn golygu fod Cymru yn diogelu ardal maint ei hunain ar ddau gyfandir. Dyna gyflawniad anhygoel i’n cenedl ni!”

Diwrnod gwyrdd

Mae’r elusen yn llwyddo i godi arian drwy gyfraniadau gan y cyhoedd sydd wedyn yn cael ei ddyblu gan gronfa’r elusen.

Maent yn cynnal ‘Diwrnod Gwyrdd’ ar Hydref 14 gan annog pawb i wisgo gwyrdd i godi arian at yr achos.

Ac mae newid hinsawdd a datgoedwigo wedi bod yn llygad y cyhoedd yn ddiweddar, wrth i drefnwyr y Gemau Olympaidd yn Rio fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw ato drwy blannu coeden am bob athletwr fu’n cymryd rhan.