Mae undeb Unsain Cymru’n galw am ymchwiliad yn dilyn honiadau o dwyll gan weithwyr un o gwmnïau gofal cartref Abertawe.

Mae’r gweithwyr, sy’n gweithio i gwmni MiHomecare sy’n cael eu cytundebu gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, wedi cael gorchymyn i beidio aros gyda’r sawl y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw am y nifer o oriau sy’n cael eu nodi ar gynlluniau gofal cleientiaid.

Yn ôl Unsain, mae’r cwmni wedi ceisio arbed arian ac maen nhw’n galw ar Gyngor Abertawe i benderfynu a yw’r cwmni’n euog o dwyll gan fod arian y Cyngor yn cael ei roi ar sail y nifer o oriau y mae’r gweithwyr yn eu treulio gyda chleientiaid.

Mae pryderon fod lleihau nifer yr oriau sy’n cael eu treulio gyda chleientiaid yn golygu nad ydyn nhw’n derbyn y lefel briodol o ofal.

Mae Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymru eisoes wedi mynegi pryder am y sefyllfa, gan nodi nad yw’r cwmni’n “parchu hawliau a dewisiadau pobol yn llawn”.

‘Anhapus iawn’

Yn ôl trefnydd rhanbarthol Unsain, Eddie Gabrielsen: “Mae gweithwyr gofal yn anhapus iawn am y sefyllfa. Yn sicr, nid nhw sydd ar fai ac maen nhw am ddarparu’r gofal gorau posib i bob un o’u cleientiaid.

“Mae gorfodi gweithwyr gofal i gwtogi amser yn torri ar draws urddas cleientiaid bregus ac rydym wedi ysgrifennu at swyddfa dwyll y cyngor i fynegi ein pryderon.

“A yw MiHomeCare neu ddarparwyr gofal cartref eraill wedi cael eu talu am amser pan nad ydyn nhw wedi darparu gwasanaeth? Os ydyn nhw, pwy sy’n gyfrifol ac a fu twyll?”

Mae Unsain yn galw ar holl gynghorau Cymru i arwyddo’r Siarter Gofal Moesol i ddiogelu safonau. Cytunodd Cyngor Abertawe i arwyddo’r Siarter y llynedd, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny hyd yn hyn.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Cyngor.