Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn 33 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ladrata yn dilyn lladrad mewn tŷ yn Garden City, Glannau Dyfrdwy.
Yn ôl yr heddlu, roedd y lladrad wedi digwydd rhywbryd yn ystod y pum diwrnod diwethaf, gydag eitemau o bwysigrwydd sentimental wedi eu dwyn.
Yn eu plith roedd ffotograffau o ferch 11 oed y dioddefwyr, sef Caitlyn, a fu farw bum mlynedd yn ôl, ynghyd â gemwaith.
Mae lle i gredu bod y dyn sydd wedi’i arestio hefyd yn dod o’r un ardal, ac mae’n parhau yn y ddalfa.