Gallai 750 o dai newydd ddod i ardal Abertawe ar ôl i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Gyngor Abertawe ddoe (dydd Mercher).

Mae rhai trigolion lleol wedi codi pryderon dros y cynlluniau ar gyfer Gorseinon, gan ddweud y byddai problemau llifogydd sydd eisoes yn yr ardal yn “gwaethygu” pe bai’r tai newydd yn cael eu codi.

Mae cwmni Persimmon, sydd am ddatblygu’r ardal, wedi dweud y byddai darparu system ddraenio gynaliadwy yn gwaredu â’r broblem hon.

Ond mae pryderon hefyd dros gyfleusterau’r ardal, y diffyg meddygfeydd a’r cynnydd mewn traffig os byddai’r prosiect yn cael ei ganiatáu.

Mae adran gynllunio’r sir wedi dweud hefyd y gall y cynllun gael “effaith sylweddol” ar brydferthwch yr ardal.

Y cais

Yn ogystal â’r 750 o dai, mae’r cais hefyd yn cynnwys adeiladu un ysgol gynradd newydd ar gyfer yr ardal, ardaloedd gwyrdd a darpariaeth chwaraeon y tu allan, fel caeau pêl droed.

Yn ôl y cwmni, byddai hefyd angen gwella’r ffordd fawr ger y datblygiad ar gaeau Bryngwyn ym Mhontybrenin, creu ffyrdd newydd a llwybrau beicio a cherdded newydd.

Yn y cais cynllunio, mae’n nodi hefyd y byddai rhywogaethau sydd wedi’u diogelu yn cael eu heffeithio gan y cynllun, ac mae’r cwmni wedi addo asesu hyn.

Ar hyn o bryd, mae’r safle yn cael ei ddefnyddio i anifeiliaid bori ac mae hefyd yn cynnwys coedwig.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn cau ddiwedd mis Awst ac mae’n debygol y bydd y Cyngor yn cwrdd wedi hynny i drafod y cais.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â chwmni Persimmon am y cais, ond yn dal i aros ymateb.