Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i wrthdrawiad a ddigwyddodd yn Nhreforys, Abertawe dros y penwythnos.

Dioddefodd gyrrwr beic modur anafiadau yn sgil y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Caemawr tua 4.20yb ddydd Sadwrn, Awst 6.

Mae’r gyrrwr yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw dystion ac yn arbennig gyrrwr car Ford Fiesta a wnaeth aros wedi’r digwyddiad, ond a adawodd cyn i’r heddlu gyrraedd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw.