Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn ffatri ar ystâd ddiwydiannol ger Aberdâr nos Sadwrn.
Cafodd chwe chriw o Wasanaeth Tân ac Achub y De eu hanfon i Hirwaun yn dilyn galwad am 11.23yh.
Cymerodd hi awr a hanner iddyn nhw reoli’r fflamau a diogelu adeiladau cyfagos.
Mae ymchwiliad ar y gweill.