Yr enillydd - Hefin Robinson (llun G360)
Hefin Robinson o Gaerfyrddin sy’n cipio’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 ar ôl dod yn agos at y brig y llynedd a’r flwyddyn gynt.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, fe aeth i’r un ysgolion a phrifysgol yn union â llenor y Fedal Ryddiaith brynhawn ddoe, Eurig Salisbury – Ysgol Gynradd Y Dderwen ac Ysgol Uwchradd Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth.
Mae’n cipio’r Fedal am ddrama ‘Estron’ dan ffugenw Thomas Jerome Newton y cymeriad yr oedd y seren bop David Bowie yn ei actio yn y ffilm The Man Who Fell to Earth.
‘Ffresni beiddgar’
Yn ôl y beirniaid, Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf, roedden nhw’n unfryd mai ef oedd yn ennill o blith y 12 ymgais.
Mae eu beirniadaeth yn nodi, “mae yma ffresni beiddgar gan ysgrifennwr arbrofol, hyderus, nad yw’n ofni torri’r ‘rheolau’.
“Mae’n rhannol o ddifrif, rhannol tafod yn y boch, chwareus, prydferth, ond drwy’r cyfan yn llawn dychymyg. Dyma rywun sy’n gwybod sut i ddefnyddio’r gwagle theatrig a hefyd ei ddadstrwythuro. Gallwn weld ei photensial cyffrous o’i llwyfannu.”
Roedd y tri hefyd yn argymell y dylai’r ddrama a ddaeth yn ail gael ei hystyried ar gyfer ei pherfformio gan gwmni theatr proffesiynol.