Amina Al-Jeffery, Llun: PA
Fe ddylai academydd o Sawdi Arabia ddod a’i ferch 21 oed yn ôl i’r DU, mae barnwr wedi dyfarnu yn yr Uchel Lys heddiw.

Mae Amina Al-Jeffery, sydd â dinasyddiaeth ym Mhrydain a Sawdi Arabia, ac wedi’i magu yn Abertawe, yn honni bod ei thad, Mohammed Al-Jeffery yn ei chloi yn ei hystafell am ei bod wedi “cusanu dyn.”

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli Amina Al-Jeffery wedi cymryd camau cyfreithiol ac wedi gofyn i Mr Ustus Holman i ystyried ffyrdd y gall ei helpu.

Mae’r barnwr, fu’n ystyried y dadleuon yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Gorffennaf wedi bod yn cyflwyno ei ddyfarniad.

Clywodd Mr Ustus Holman bod  Amina Al-Jeffery wedi gadael Abertawe ac wedi symud i Sawdi Arabia gyda’i theulu bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y barnwr bod yr achos yn un “anarferol iawn”.

Daeth i’r casgliad bod rhyddid Amina Al-Jeffery wedi ei gyfyngu.

Dywedodd Mr Ustus Holman y dylai Mohammed Al-Jeffery roi ei phasbort yn ôl i’w ferch a thalu iddi hedfan yn ôl i’r DU.

Ychwanegodd bod Amina Al-Jeffery “mewn perygl” a bod angen ei “hachub” ac y byddai’n cymryd camau i’w diogelu.