Ambiwlans Awyr Cymru
Cafodd beiciwr ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol ar ôl dod oddi ar ei feic ger Pwll Penmaen, yn Nolgellau, Gwynedd.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw toc cyn 11yb bore dydd Mercher, 3 Awst yn dilyn adroddiadau bod beiciwr wedi’i anafu’n ddifrifol.

Bu’r A493 ger Pwll Penmaen  ynghau i’r ddau gyfeiriad am fwy nag awr wrth i’r gwasanaethau brys ddelio gyda’r digwyddiad.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Cafodd y ffordd ei hail-agor erbyn 1.30yp.