Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i gerrig gael eu taflu at gerbydau oedd yn teithio ar yr A55 ger cyffordd 25 ym Modelwyddan.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod tri o bobl ifanc yn eu harddegau wedi’u gweld yn taflu cerrig oddi ar y bont rhwng Bodelwyddan a Chastell Bodelwyddan am tua 2.45yp bnawn Dydd Llun, 1 Awst.

Aeth swyddogion i’r safle ond ni ddaethon nhw o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol.

Meddai swyddog yr heddlu Phillip Roberts: “Rydym yn credu bod un o’r tri yn fachgen a oedd yn gwisgo cap pêl-fas ag un arall yn ferch gyda gwallt brown, hir.

“Gallai canlyniadau eu hymddygiad troseddol fod wedi bod yn angheuol ac rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y rhai sy’n gyfrifol i gysylltu â’r heddlu ar 101 a dyfynnu cyfeirnod U113836.”