Owen Smith, AS Pontypridd (llun o'i wefan)
Parhau mae’r dyfalu fod Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, yn dal i ystyried sefyll fel ymgeisydd i arwain y Blaid Lafur.

Er bod cyn lefarydd Llafur ar waith a phensiynau yn dweud y byddai’n barod i gyfarfod Jeremy Corbyn i chwilio am unrhyw ffyrdd o achub y blaid, dywed hefyd y byddai’n “gwneud beth bynnag oedd ei angen” er mwyn osgoi hollt.

“Hwn yw’r argyfwng mwyaf sy’n wynebu Llafur mewn cenedlaethau ac mae’n digwydd ar adeg pan fo’n gwlad mewn dybryd angen am Blaid Lafur unedig i siarad dros Brydain,” meddai.

“Dw i’n dal i deimlo’n bryderus iawn fod nifer bach o bobl o’r chwith ac o dde ein plaid fel petaen nhw’n fodlon iddi hollti. Rhaid i’r mudiad Llafur ddod at ei gilydd i osgoi hyn waeth beth fo’r gost.

“Dw i’n dal yn ymroddedig i wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol i rwystro hollt ac uno’r blaid.”

Lansio her

Daw ei sylwadau wrth i Angela Eagle gyhoeddi ddoe y bydd yn lansio her i ddisodli Jeremy Corbyn fel arweinydd.

Dywedodd y cyn-lefarydd busnes fod Corbyn “wedi methu â chyflawni ei brif ddyletswydd, sef arwain plaid seneddol Lafur effeithiol a all ddal y Llywodraeth yn atebol a dangos ein bod yn barod i ffurfio llywodraeth pe byddai etholiad cyffredinol”.

Fe wnaeth ei chyhoeddiad ar ôl i’r dirpwy arweinydd Tom Watson dynnu’n ôl o drafodaethau gyda’r undebau, gan nad oedd yn credu fod unrhyw ragolygon realistig o gyfaddawd.

Er bod Aelodau Seneddol wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder o 172 i 40 yn eu harweinydd, mae Jeremy Corbyn wedi cadarnhau ei fod yn benderfynol o ddal ati.

Mae’r etholiad am arweinydd newydd yn sicr o ddyfnhau rhwygiadau o fewn y Blaid Lafur, wrth i Jeremy Corbyn fynnu bod ganddo hawl awtomatig i’w enw fod ar y papur pleidleisio, heb ddibynnu ar enwebiadau Aelodau Seneddol.

Mae ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite, Len McCluskey yn rhybuddio y byddai’r mudiad Llafur yn hollti os bydd unrhyw ymgais i geisio rhwystro Jeremy Corbyn rhag sefyll.