Y dathliadau yng Nghaerdydd ddoe
Wrth i’r tim cenedlaethol ddychwelyd i Gymru ddoe, mae Golwg360 yn cnoi cil dros lwyddiant carfan Cymru o ran hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn y byd ehangach.

Er ei bod yn ystrydeb, rhoddwyd Cymru ar y map, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol ac mae Cymru bellach yn gyfarwydd i lawer led-led y byd.

Roedd nifer o chwiliadau am Gymru ar y we wedi saethu i’r uchelfannau, gyda chynnydd mawr mewn trydariadau yn trafod Cymru, ers iddynt gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc.

Yn ystod y gystadleuaeth, fe wnaeth Cwmni Carlsberg, Budweiser ac Adidas, UEFA eu hunain a llawer eraill ddefnyddio’r Gymraeg mewn hysbysebion ac ar eu cyfrifon trydar. Fe roedd rhaglen ddyddiol ITV This Morning, wedi addasu y gân agoriadol a’i chyfieithu i’r Gymraeg ar drothwy’r gêm yn erbyn Portiwgal. Fe roedd yr anthem hefyd wedi gwefreiddio newyddiadurwyr o Rwsia ac fe oleuwyd y Twr Eiffel yn lliwiau Cymru sawl gwaith, dyna chi gydnabyddiaeth!

Roedd papur newydd Y Guardian a’r Daily Express hefyd wedi neidio ar y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg.  Gyda seren Cymru, Aaron Ramsey yn trydar yn y Gymraeg hefyd, mae’r Gymraeg wedi hawlio’i lle yn y llwyfan byd-eang, gyda pharch yn cael ei rhoi iddi.

Mae’r diolch hefyd i Gymdeithas Pêl-droed Cymru am roi statws cydradd iddi mewn unrhyw ohebiaeth gyda’r wasg a’r cyfryngau, gyda’r pennaeth cyfathrebu Ian Gwyn Hughes yn gwbl ganolog. Fe grewyd hanes pan atebodd yr is-reolwr Osian Roberts gwestiwn yn y Gymraeg mewn cynhadledd swyddogol UEFA yn Dinard yn Llydaw. Mae’r Gymraeg wedi bod yn rhan o rywbeth sy’n llwyddo, sy’n gyfoes a rhywbeth ffasiynol iawn a dyna mae’n debyg sy’n allweddol yma.

Pwerus

Mae’r gystadleuaeth hon ben ac ysgwydd yn fwy pwerus yn fasnachol nac unrhyw am gystadleuaeth mewn unrhyw gamp arall, yn cynnwys rygbi oherwydd apêl bydeang y bel-gron. Mae Cymru ymhob maes ar ei ennill, ac fe fydd y diwydiant ymwelwyr hefyd yn gobeithio y daw mwy o ymwelwyr o dramor yn dod i Gymru o ganlyniad.

Yn sicr, mae’r mis diwethaf wedi profi’n hwb anferthol ac yn chwistrelliad iachus i Gymreictod ac i’r Gymraeg yn benodol. Fe fydd y mis hwn wedi gadael ei ôl am ddegawdau ac fe fydd pawb yn gobeithio y cawn ni ragor o lwyddiant yng Nghwpan y Byd yn Rwsia er mwyn efelychu a chynnal y llwyddiant hwn.