Mae elusen wedi galw am roi cyflog byw uwch i 300,000 o weithwyr yng Nghymru, gan ddweud bod cyflogau isel yn “endemig” yn y wlad.

Mae Sefydliad Bevan wedi croesawu’r Cyflog Byw Cenedlaethol gorfodol, a ddaeth i rym ar y cyntaf o Ebrill, sy’n golygu bod gweithwyr dros 25 oed yn gorfod cael eu talu o leiaf £7.20 yr awr.

Ond mae’r elusen yn dweud bod gweithwyr angen £8.25 yr awr – sef yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘gyflog byw gwirfoddol’ – i dalu am gostau byw sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod am gymryd camau i ledaenu’r cyflog byw drwy weithio gyda chynghorau sir a chyfyngu ar ddefnydd cytundebau ‘dim oriau’.

Merched yn fwy tebygol o gael llai

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru ar gyflog isel, a’r rhai sydd mewn perygl mwyaf yw merched, gweithwyr rhan amser a gweithwyr iau neu hŷn.

Mae pobol sy’n gweithio yn y sectorau masnachu, lletygarwch, gweithwyr gofal a’r rhai yn y sector preifat yn fwy tebygol o gael eu talu llai hefyd.

Ac mae gweithwyr ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o orfod gwneud heb y cyflog byw, yn ôl adroddiad yr elusen.

Ond mae yna nifer fawr hefyd sy’n byw heb dâl digonol, yn ôl yr elusen, yn rhanbarth dinesig Caerdydd, sy’n cynnwys ardaloedd tlotaf Cymru fel ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tydfil.

Lledaenu’r cyflog byw i 5,000 bob blwyddyn

Yn eu hadroddiad mae Sefydliad Bevan yn argymell lleihau nifer y bobol sy’n byw ar gyflog sy’n llai nag £8.25 yr awr gan 5,000 bob blwyddyn.

Byddai hyn yn golygu cyflwyno deddfwriaethau lleol a chenedlaethol i gefnogi’r cyflog byw gwirfoddol.

Maen nhw hefyd yn galw am greu adnodd arbennig i ddod â’r llywodraeth, elusennau, undebau llafur a chyrff cyflogwyr ynghyd i greu Cyflog Byw Cymreig, yn debyg i’r hyn sydd yn Yr Alban.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae “tegwch wrth wraidd” ei gwaith, ac mae’n “ymrwymedig i adeiladu economi llewyrchus a chytbwys”.

Daeth addewid i ledaenu’r Cyflog Byw, gan gynnwys gweithio gyda llywodraethau lleol i annog mwy o gyflogwyr i dalu’r cyflog hwnnw, gan gyfyngu hefyd ar gytundebau dim oriau.

“Bydd hyn yn adeiladu ar gyraeddiadau positif y Cynulliad diwethaf pan fabwysiadodd y Gwasanaeth Iechyd y Cyflog Byw, gan gynyddu cyflogau’r bobol ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth,” meddai llefarydd.

“Rydym hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth a chymorth ariannol i fusnesau bach a mawr i’w helpu i gystadlu a thyfu a’u gadael mewn sefyllfa gryfach i dalu’r cyflog byw i’w staff.”