Mae cynnydd o 4% wedi bod yn nifer y cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’r llynedd yn ôl ffigurau sydd wedi’u rhyddhau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Am hynny mae’r Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi galw am ddeddfwriaeth newydd gan y Cynulliad ar gyfer ei swyddfa i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a fyddai’n cynnig “arweiniad mwy cadarn”.

Mae ei adroddiad blynyddol hefyd yn amlygu fod nifer y cwynion yn erbyn cyrff y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 50% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

‘Datblygu arferion o ansawdd uchel’

Mae’r Ombwdsmon wedi galw am ddeddfwriaeth newydd i ‘Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus’ er mwyn rhoi mwy o bwerau i’w swyddfa.

Dywedodd Nick Bennett y byddai hyn yn “datblygu arferion o ansawdd uchel ar gyfer delio â chwynion a chasglu data, nid yn unig ar draws gyrff y GIG, ond ym mhob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

“Byddai hyn yn arwain at weld problemau yn gynharach ac yn caniatáu i gyrff cyhoeddus weithredu yn gynt,” meddai.

‘Pryder gwirioneddol’

Y llynedd, fe wnaeth yr Ombwdsmon benodi swyddogion gwella i bump o Fyrddau Iechyd Cymru, sef Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda.

Ond, dywedodd fod angen gwneud mwy am fod y “duedd gynyddol mewn cwynion i’r GIG yn bryder gwirioneddol ac mae angen arweinyddiaeth i rymuso staff rheng flaen fel eu bod yn gallu ymateb i anghenion cleifion ar draws Cymru.”