Mae economegydd blaenllaw wedi rhybuddio y gall Brexit greu goblygiadau dyrys i economi Cymru, heb ‘sicrwydd’ y bydd y bobol yn cael siâr o’r gacen gan San Steffan.

Mae hynny yn enwedig o ran grantiau i ffermwyr a’r cronfeydd strwythurol oedd yn dod i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd – y ddwy brif ffynhonnell o arian yr UE i Gymru.

Mewn  blog ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae Dr Eurfyl ap Gwilym, sy’n Ymgynghorydd Ariannol i Blaid Cymru, hefyd yn rhybuddio dros yr effaith ar wariant cyhoeddus, pe bai mwy o gyni o achos Brexit.

Mae’n galw am gydweithio rhwng pleidiau Cymru – Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – ynghyd â busnesau ac undebau llafur, i ymateb i’r peryglon posib.

Mae’r economegydd yn dadlau y bydd fwy o straen ar wariant y DU yn y tymor byr, ac felly does dim sicrwydd y byddai Llywodraeth Prydain yn gallu digolledu Cymru yn gyfan gwbl.

Yn 2014, cafodd Cymru £260 miliwn dan y Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (CAP) gan yr UE a £396miliwn mewn Cronfeydd Strwythurol.

Yn ôl Eurfyl ap Gwilym, wrth i Gymru adael yr UE, bydd y £656 miliwn hyn yn cael ei golli’n syth, sef tua £212 y pen, a does dim modd gwybod yn iawn y bydd yr arian hwnnw yn dod yn ôl drwy law San Steffan.

Pryder i ffermwyr

Dywedodd ymgyrchwyr Brexit y bydd Cymru’n cael ei digolledu’n llawn o’r arbedion y bydd Llywodraeth Prydain yn ei wneud o beidio gorfod cyfrannu at gylliden yr UE.

Ond mae Eurfyl ap Gwilym yn dadlau nad oes sicrwydd y bydd yr arbedion hyn yn dod i’r fei o gwbl – yn enwedig o ran ffermio.

“Mae’r sector amaeth yn cyflogi cyfran fwy o’r boblogaeth ledled y UE (5%) nag yn y DU (1.3%) na Chymru (3%),” meddai.

“Mae ‘na berygl felly na fyddai’r CAP yn cael ei ddigolledu’n llawn gan Lywodraeth Prydain yn y dyfodol er bydd yn rhaid i ryw fath o gymorth amaethyddol ddod yn ei le.

“Mae’r NFU yn amcangyfrif bod cymorthdaliadau ffermio yn cynrychioli 80% i 90% o incwm ffermwyr Cymru.”

Rhybuddiodd hefyd dros y tariffau gallai ffermwyr wynebu a bod hynny’n dibynnu’n helaeth ar gytundebau masnachu fydd yn cael eu trafod wrth i Brydain adael yr UE.

Angen bod yn “wyliadwrus ac effeithiol”

Dywedodd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn “wyliadwrus ac effeithiol” wrth drafod ariannu rhanbarthau tlotaf Cymru, fel y gorllewin a’r Cymoedd.

Yn ei erthygl, mae Dr Eurfyl ap Gwilym hefyd yn ystyried effaith Brexit ar incwm cenedlaethol y DU a’r effaith fydd yn ei gael ar incwm Cymru a galwodd ar Lywodraeth Prydain i “roi’r gorau” i’w chynlluniau llymder.

“O ystyried y dadansoddiad llwm hwn, dylai Llywodraeth y DU rhoi’r gorau i’w chynlluniau ariannol afrealistig a derbyn na fydd yn bosib cydbwyso cyllideb y DU am nifer o flynyddoedd,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Prydain.