Mae elusen addysg uwch wedi galw ar wleidyddion i uno er mwyn achub “miliynau o bunnoedd” y gallai’r sector ei golli yn dilyn Brexit.

Yn ôl Colegau Cymru mae sawl prosiect sy’n meithrin addysg a sgiliau yng Nghymru “dan fygythiad” yn dilyn y bleidlais.

Mae’r sefydliad yn dweud bod £1.1 biliwn wedi ei fuddsoddi mewn swyddi a’r sector addysg a sgiliau drwy’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ers 2014.

Yn ôl Iestyn Davies, Prif Weithredwr yr elusen, mae’n rhaid i wleidyddion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain weithio gyda’i gilydd i lenwi’r bwlch hwn.

“Mae sawl prosiect a buddsoddiad sy’n cefnogi addysg a sgiliau yng Nghymru bellach dan fygythiad ac mewn perygl o gael eu colli,” meddai.

“Fedrwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd. Mae’n hanfodol bod gwleidyddion pob plaid yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu gwir atebion i’r her o gynaliadwyedd dysgu a sgiliau yng Nghymru.”

Troi at San Steffan

Does neb wir yn gwybod beth fydd yn digwydd i’r sector yn dilyn Brexit.

Yn ôl yr ochr Gadael, bydd y sector addysg uwch yn dal i gael ei ariannu gan San Steffan.

Mae Colegau Cymru heddiw felly yn galw am sicrhau bod cronfeydd yr UE yn dal i’w gyrraedd hyd at 2020.

“Mae angen cynigion cadarn a phendant gan Lywodraeth y DU a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i addysg a sgiliau ein cenedl,” ychwanegodd Iestyn Davies.