Siân Gwenllïan
Mae Brexit yn “newyddion trychinebus i economi Cymru” yn ôl Aelod Cynulliad Arfon.

Roedd dros 65% o bleidleiswyr etholaeth Siân Gwenllïan o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond at ei gilydd mae Cymru wedi fotio’n unfrydol o blaid gadael – 17 o’r 22 ardal cyngor sir wedi bwrw croes o blaid Brexit.

Yn ôl Siân Gwenllïan, y bregus mewn cymdeithas “fydd ar eu colled”.

“Fedra i ddim cuddio fy siom heddiw yn sgil canlyniad y Refferendwm,” meddai AC Arfon.

“Roeddwn wedi gobeithio fod newid wedi digwydd i’r farn gyhoeddus yn wythnos olaf yr ymgyrch – ond yn anffodus, roeddwn yn anghywir.

“Dw i’n drist ein bod wedi siomi ein pobol ifanc ond yn cymryd cysur o’u ffydd nhw yn y dyfodol.

“Mae’r 75% o bobol ifanc wnaeth bleidleisio i aros angen ein cefnogaeth ni heddiw…

“Does dim dwywaith fod hyn yn newyddion trychinebus i economi Cymru a’r bobl fwyaf bregus fydd ar eu colled.”

Celpan i Cameron

Eisoes mae sawl un wedi beirniadu’r Prif Weinidog David Cameron am alw refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain yn Ewrop.

Mae’r beirniaid yn dweud iddo gymryd gambl ddiangen, a hynny er mwyn rhoi taw ar aelodau Ewro-sgeptig o’r Blaid Dorïaidd a sbaddu UKIP unwaith ac am byth.

Hefyd mae beirniadu wedi bod ar ddiffyg arweiniad honedig Jeremy Corbyn, Arweinydd Llafur, yn ystod yr ymgyrch.

Yn ôl Siân Gwenllïan “camgymeriad tactegol anferth Cameron sydd wedi arwain at y sefyllfa yma.

“Mae diffyg arweiniad enbyd Llafur o dan Corbyn wedi chwarae i ddwylo Brexit.”