Paul Flynn - rhybuddio am y 'bobol ddrwg' (Llun o'i wefan)
Mae canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yn golygu mai’r “bobol ddrwg” sydd wedi ennill, yn ôl un gwleidydd blaenllaw o Gymru.

Mae Paul Flynn wedi dweud wrth golwg360, mai’r “bobol waetha'” fydd yn rheoli’r Deyrnas Unedig o hyn ymlaen ac y bydd Cymru’n diodde’ o ganlyniad.

Dywedodd yr AS dros Orllewin Casnewydd ei fod yn “siomedig” am y canlyniad, yn enwedig yng Nghymru, lle’r oedd 52.5% o’r boblogaeth wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dw i’n credu y bydd blynyddoedd anodd o’n blaenau,” meddai Pau Flynn. “Dw i’n gweld y bydd pobol sydd wedi pleidleisio dros adael yn cael eu siomi hefyd yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen i weld beth fydd yn digwydd i’r arian hynny a gafodd ei addo i’r Gwasanaeth Iechyd, r’yn ni’n gweld ar unwaith bod yr addewidion a ddaeth o’r ymgyrch yn rhai ffug ac ddim yn bosib eu cyflawni.”

Wrth siarad am y rhagolygon i Gymru yn dilyn y bleidlais, dywedodd Paul Flynn, fod “rhaid i ni wneud y gorau o’r sefyllfa ofnadwy sydd o’n blaenau ni”.

Alban annibynnol?

Ac wrth edrych tua gwledydd eraill y Deyrnas Unedig – Yr Alban, lle’r oedd pob un etholaeth wedi pleidleisio dros Aros – a Gogledd Iwerddon, lle’r oedd mwyafrif clir tros adael, roedd o’r farn y gallai’r dyfodol siglo’r Deyrnas Unedig yn gyfangwbl.

“Rwy’n siŵr y bydd yr Alban yn mynd – rhaid i bobol ystyried barn y bobol fod yna ddyfodol gwell yn Ewrop, a’r unig ffordd i wneud e yw bod yr Alban yn dod yn annibynnol. Bydd hynny’n sicr,” meddai.

“Bydd problemau ofnadwy yng Ngogledd Iwerddon hefyd – mae galwadau i ddod â’r wlad (Gweriniaeth Iwerddon) at ei gilydd eto.

“Rwy’n poeni am Gymru, gan ein bod ni wedi derbyn cymaint mwy o arian gan yr Undeb Ewropeaidd nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.”

Ffoaduriaid – ‘gormod’ yng Nghasnewydd

“Yn anffodus, dydy pobol Cymru heb weld y peryglon sydd o’n blaen ni. Mae’r broblem yn dod o’r holl straeon yn y papurau tabloid yn gor-ddweud,” meddai Paul Flynn.

“Ond, un o’r problemau sydd gennym ni yng Nghasnewydd ydy bod Casnewydd yn cael mwy na’n siâr ni o bobol sydd yn dod o wledydd eraill

“O’r bobol sydd yn cael noddfa ym Mhrydain, daeth 500 i Gasnewydd a dim un lle mae (etholaethau) y Prif Weinidog, y Canghellor a’r Ysgrifennydd Cartref.”