(Llun Cool Guyn CCA3.0)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chwmni Costa wedi creu caffis dwyieithog cyntaf Costa, a hynny yn ysbytai Cymru.

Mae caffis Costa yn Ysbytai Llwynhelyg, Glangwili ac Ysbyty Tywysog Philip bellach ar agor ac arddangos oriau agor a bwydlenni yn y ddwy iaith, ynghyd â’r staff sy’n medru’r Gymraeg.

Bydd caffi arall yn agor yn Ysbyty Bronglais ymhen ychydig fisoedd.

Mae’n rhan o gynllun i wneud pob un caffi yn ysbytai Byrddau Iechyd Cymru yn ddwyieithog erbyn diwedd 2016 i gwrdd â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg a fydd yn dod i rym o fewn y flwyddyn nesaf.

‘Balch’

Dywedodd Sarah Jennings o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod dewis iaith cleifion yn bwysig iddyn nhw a meddai ei bod yn falch bod y caffis Costa cyntaf yng Nghymru sy’n arddangos bwydlenni dwyieithog yn ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Meddai Sarah Jennings: “Mae Costa yn gwmni rhyngwladol sy’n gweithredu mewn sawl iaith, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd iaith. Mae dewis iaith ein cleifion yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn falch iawn bod gennym y Costa cyntaf yng Nghymru sy’n arddangos bwydlenni dwyieithog.

“Gobeithio bydd y cyhoedd yn mwynhau eu coffi mewn awyrgylch dwyieithog cartrefol.”