Canlyniadau Cymru fan hyn – o blaid gadael

8.47  Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, yn gwneud datganiad yn dweud eu bod “yn barod”. Roedd swyddogion y Bang a’r Trysorlys wedi bod yn cyfarfod dros nos, meddai, ac fe fyddai’r Banc yn barod i weitrhedu fel y bo’r angen i gefnogi marchnadoedd. Ond fe rybuddiodd hefyd y byddai yna ansefydlogrwydd yn y dyfodol agos.

8.37  Yr ymateb i ymddiswyddiad David Cameron wedi dechrau. Dau enw yn y ras eisoes – Boris Johnson, a Michael Gove – sylwebwyr yn dweud y bydd rhaid cael Prif Weinidog Brexit. Y llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, Owen Smith, yn dweud bod “buddiannau cenedlaethol Prydain yn cael eu haberthu ar allor gwleidyddiaeth y Ceidwadwyr a hunan-fudd unigolion Toriaidd”.

8.26  Fe ddylai’r bobol sydd wedi ymgyrchu tros aros fod yn gweithio’n awr i wneud yn sicr fod y broses yn llwyddiannus, meddai David Cameron. “Rhaid i ni ffeindio’r ffordd orau ac mi wna i bopeth alla i.” Dyna’i eiriau ola bron, a’i lais yn cracio wrth ddweud ei fod yn ei hystyried hi’n fraint i gael bod yn Brif Weinidog.

8.25  Y Prif Weinidog newydd fydd yn dechrau’r broses o adael yr Undeb, meddai David Cameron – mae hynny’n golygu na fydd dim yn digwydd am rai wythnosau, neu fisoedd.

8.24 Fe fydd angen Prif Weinidog newydd erbyn cynhadledd y Ceidwadwyr yn yr hydref, meddai David Cameron.

8.23 Mae Cameron wedi dweud bod angen arweinyddiaeth newydd – mi fydd yn ymddiswyddo.

8.20 Mae David Cameron wedi addo cynnwys llywodraeth Cymru yn y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd. Ac mae wedi ceisio tawelu ofnau’r marchnadoedd, Ewropeaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain a Phrydeinwyr sy’n byw ar y Cyfandir.

8.19 David Cameron yn dechrau ar ei ddatganiad trwy ddweud ei bod yn iawn gofyn barn y bobol – rhaid parchu barn y bobol. Mae ei wraig wrth ei ochr, sy’n awgrymu y bydd yna gyhoeddiad personol.

8.11 Marchnad y cwmniau mawr – y FTSE 100 – yn cwympo o 7% wrth ddechrau masnachu heddiw o ganlyniad i’r bleidlais. 8.00 Yr hanesydd Simon Schama’n dweud bod y rhan fwya’ o bobol dan 30 oed wedi pleidleisio tros aros. “Mae’r hynafgwyr wedi eu dadetifeddu”.

7.43  Lee Waters AC newydd Llanelli: “Mae pobol Llanelli’n iawn i gredu nad ydi pethau’n ddigon da. Mae amseroedd mwy caled fyth o’n blaenau y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

7.42 Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn codi cwestiwn diddorol. A fydd rhai o’r pwerau sy’n dod yn ol o Frwsel yn dod i’r Cynulliad yng Nghaerdydd?

7.39 Llawer o gefnogwyr aros yn tynnu sylw at awgrym y polau piniwn mai pobol ganol oed ac oedrannus oedd wedi pleidleisio tros adael a phobol ifanc o blaid gadael.

7.36 AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins, yn “ystyried” dechrau ymgyrch annibyniaeth i Gymru. Ymateb i’r newyddion fod Nigel Farage yn dweud mai “camgymeriad” oedd addo y byddai £350 miliwn yr wythnos ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd.

7.35 Geraint Davies AS yn dweud bod hyn yn “drychineb economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol i’r Deyrnas Unedig”.

7.32  Un o’r dadleuon mawr bellach yw pa mor gyflym y dylai Llywodraeth Prydain ddechrau’r broses adael. Mae rhai pobol fusnes a gwleidyddion yn galw am oedi; eraill, fel Jeremy Corbyn, yn dweud bod rhaid parchu canlyniad y refferendwm a gweithredu ar unwaith.

7.30 Mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi gwneud ei ddatganiad cynta’ gan roi’r bai am y bleidlais ar lywodraethau Prydain.

Roedd pobol wedi cael llond bol, meddai, ar y toriadau ac ar y chwalfa economaidd ac roedden nhw’n teimlo’n flin ynghylch y ffordd yr oedden nhw wedi “cael eu gwthio i’r ymylon” gan un llywodraeth ar ol y llall.

7.25  Adroddiadau bod Marine le Pen, arweinydd y Ffrynt Genedlaethol yn Ffrainc eisiau refferendwm yno. Nigel Farage wedi dweud ei fod yn gobeithio mai dyma ddechrau’r diwedd i’r Undeb i gyd.

7.24 Un o arweinwyr yr ymgyrch Gadael, Nigel Farage, yn dweud mai’r hen bleidlais Lafur oedd wedi rhoi’r fuddugoliaeth iddyn nhw. Roedd hi’n fuddugoliaeeth, meddai, yn erbyn “y bacnciau masnach mawr, yn erbyn busnes mawr ac yn erbyn gwleidyddiaeth fawr”.

7.23 Banc Lloegr yn dweud bod ganddyn nhw gynlluniau rhag ofn. Disgwyl datganiad gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, toc wedi wyth.

7.22 Y llefarydd Llafur ar Gymru, Nia Griffiths, yn mynnu y bydd rhaid i Lywodraeth Prydain gydnabod nad ydi ardaloedd fel Cymru yn elwa o gynnydd econoaidd gwledydd Prydain a bod rhaid ymladd i wneud yn sicr nad yw Cymru ar ei cholled. Yr her wleidyddol, meddai, yw “ail-gysylltu” gyda’r bobol.

7.21 Y canlyniad llawn yn cael ei gyhoeddi ym Manceinion.

7.19 Yr ymgyrchydd tros Adael, David Davies, AS Sir Fynwy, y dweud bod angen “ystyried” barn y bobol sy’n poeni oherwydd y canlyniad.

7.02 Y canlyniad ola wedi dod o Gernyw.

Y ffigurau terfynol ar draws y Deyrnas Unedig:

Gadael – 17,410,742

Aros – 16,141,241

6.58 Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Cymru’n dweud bod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn “gocyn hitio”. Roedd mewnfudo, meddai, “yn wenwynig ar garreg y drws, mewn ardaloedd heb fewnfudwyr”.

6.55 Simon Thomas AC Plaid Cymru yn darogan y bydd yna Etholiad Cyffredinol buan ac y bydd “Llafur ddi-asgwrn cefn Corbyn” yn cael ei chwalu.

6.40 Arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn dweud bod patrwm gwleidyddol Cymru wedi newid am byth, fod cwestiynau mawr yn wynebu Cymru, yn wleidyddol a chyfansoddiadol.

6.38  Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn dweud fod y canlyniad yn un trychinebus a “chwbl ddiflas” i Gymru. Yr her gynta’, meddai hi, yw gwneud yn sicr nad yw Cymru’n colli yn y trafodaethau ariannol sydd i ddod.

6.35 Yr AC Ceidwadol, Angela Burns, yn dweud ei bod yn poeni mwy am ddyfodol y Deyrnas Unedig na’r Undeb Ewropeaidd. “Ffarwel i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd eich colli yn torri ein cenedl (sic) a ‘nghalon i.”

6.34 Sian Gwenllian, AC Arfon: “Fedra i ddim cuddio fy siom anferth. Teimlo dros ein pobol ifanc. Rhaid chwilio am ffyrdd ymarferol i amddiffyn economi Cymru.”

6.23 Mick Antoniw, AC Llafur Pontypridd: “Rhaid i ni fod yn barod i ymladd yr asgell dde eithafol mewn etholiad cyffredinol ac am chwalfa’r Deyrnas Unedig.”

6.21 Ysgrifennydd Tramor yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier yn dweud bod y newyddion o wledydd Prydain yn “sobreiddiol”.

6.20 Eluned Morgan, AC Llafur, yn rhybuddio y bydd rhaid i ffermwyr, am y tro cynta ers 40 mlynedd, gystadlu am arian yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd.

6.18 Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, yn dweud bod angen edrych eto ar drefn gwledydd Prydain a chael patrwm Conffederal – rhag i San Steffan reoli popeth.

6.16 Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru, yn rhybuddio bod “heriau mawr” yn ein wynebu, fel cenedl. Y bleidlais yng Nghymru yn arwydd fod ein “hunaniaeth” yn gwanhau.

6.14 Sinn Fein yn galw am bleidlais ar Iwerddon unedig – mae’r bleidlais yn golygu y bydd ffin Ewropeaidd rhwng y Gogledd a’r Weriniaeth.

6.10 Y lefel uchel o bleidleisio wedi cael effaith – tystiolaeth leol yn awgrymu bod y “stadau tai cyngor” wedi pleidleisio’n gry’. Gadael ar eu cryfa’ yng ngogledd-ddwyrain Lloegr a’r Midlands.

6.09 Yr AC Llafur, Jenny Rathbone, yn rhybuddio bod y diwydiant amaeth a bwyd yn wynebu “daeargryn” gyda cholli £3 biliwn o grantiau.

6.05 Y cyn Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, yn dweud y dylai David Cameron gyhoeddi ei fod yn aros yn Brif Weinidog rhag creu ansefydlogrwydd gwleidyddol ac na ddylai ddechrau’r broses  adael cyn i’r Llywodraeth gael cyfle i ystyried.

6.00 Y funud hanesyddol. Mae’n fathemategol amhosib i Aros ennill.

5.59  Yr awdur J K Rowling yn dweud y bydd y Deyrnas Unedig yn cael ei chwalu hefyd. Y cyn bel-droediwr Gary Lineker yn gofyn “Be ydan ni wedi’i wneud?”.

5.57 Cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ymgyrchydd tros Brexit yn gwrthod cefnogi David Cameron. Dweud mai ef a benderfynodd ar y refferendwm a bod rhaid iddo ystyried ei ddyfodol. Mae mewn “lle anodd” i geisio arwain y trafodaethau gadael. Mae angen sefydlogrwydd yn gyflym – yr awgrym yw y dylai David Cameron fynd.

5.53 Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, yn rhybuddio nad oes gan Brexit gynllun ar gyfer yr hyn sy’n digwydd nesa.

5.49  Y sylwebydd gwleidyddol, Andrew Neill, yn rhybuddio y bydd y bleidlais yng ngwledydd Prydain yn tanio symudiadau tebyg mewn sawl gwlad Ewropeaidd ac yn gwneud i’r Unol Daleithiau ailystyried ei pholisi at y Deyrnas Unedig.

5.43 Alastair Campbell, cyn lefarydd Tony Blair yn Downing Street, yn dweud bod rhaid i ni fyw gyda “chanlyniadau anferth” penderfyniad David Cameron i gael refferendwm.

5.39 Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, yn beio Llafur Cymru am gefnogi ymgyrch ‘Ofn’ y Ceidwadwyr Prydeinig ac yn rhybuddio bod Cymru’n wynebu asgell dde boblogllyd sydd ar gynnydd a Sefydliad Llafur sydd ar fin cael ei chwalu.

5.36 Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, yn darogan y bydd y bleidlais yn arwain ar gryfhau’r ymgyrch tros annibyniaeth – fod yr Alban yn gweld ei dyfodol yn yr Undeb Ewropeaidd.

5.34 Mark Williams, AS Ceredigion, yn llongyfarch ei etholaeth ei hun ond yn dweud y byddai dweud ei fod yn siomedig yn llawer llai na’r gwir.

Ian Lucas, AS Wrecsam, yn dweud bod rhaid i Lafur ymladd daro’n ol.

5.33 Mae’n sicr bellach fod Gadael wedi ennill – os na fydd tanchwa yn yr ychydig ardaloedd sy’n weddill.

5.29 Arweinydd Plaid Geidwadol Cymru, Andrew R T Davies yn dweud bod hon yn “ennyd hanesyddol i Gymru, i’r Deyrnas Unedig ac i ddemocratiaeth”.

5.14  Pryder am effaith ar y marchnadoedd stoc. Y bunt wedi colli 9% o’i gwerth eisoes yn erbyn y ddoler a 6% yn erbyn yr Ewro.

5.12 Cadarnhad fod pob awdurdod yn yr Alban wedi pleidleisio tros aros. Nicola Sturgeon yn llongyfarch y bobol.

Er fod cefnogaeth i annibyniaeth yn brin o fwyafrif ar hyn o bryd, fe allai hynny newid yn gyflym wrth i broblemau’r ail-drafod ac effeithiau’r bleidlais Brydeinig ddechrau dod i’r amlwg.

4.58 Ar hyn o bryd, mae 52% o holl bleidleisiau’r Deyrnas Gyfunol o blaid gadael.

Mae sylwebyddion gwleidyddol yn sicr y bydd rhaid i David Cameron ymddiswyddo. Un o gyn gydweithwyr Boris Johnson yn sicr y bydd eisoes yn cynllunio i fynd am y swydd.

4.48 Yr Alban yn cyhoeddi’n swyddogol.

1,661,191 tros aros. 1,018,328 am aros.

Y canlyniad yn drawiadol o aros i weddill tir mawr y Deyrnas Unedig. Y trafod yn dechrau eisoes am refferendwm newydd ar annibyniaeth.

4.41  Y BBC yn darogan y bydd y bleidlais trwy’r Deyrnas Unedig tros adael.

Lloegr a Chymru am fynd; yr Alban a Gogledd Iwerddon tros aros.

4.38  Y canlyniad swyddogol yn dod i Gymru o Gei Conna.

1,628, 504 wedi pleidleisio.

Cadarnhau fod 772,347 tros aros, 854,572 tros adael.

Dim ond 1,135 o bapurau oedd wedi eu gwrthod.

4.35 Gwynedd tros aros ond Cymru am fymd.

Gwynedd: 35,517 o blaid aros; 25,655 tros fynd.

Cymru: 772,347 tros aros; 854,572 am fynd.

Y rhan fwya’ o ardaloedd y Cymoedd wedi pleidleisio tros adael.

4.30- Bore da … i Frexitwyr o leia’.

Mae Cymru eisoes wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac ar hyn o bryd, mae’r garfan Gadael ar y blaen trwy wledydd Prydain.

Mae arweinydd plaid UKIP, Nigel Farage, newydd siarad yn dweud bod “y wawr yn torri ar Deyrnas Unedig annibynnol”.

Roedd hi’n fuddugoliaeth i “bobol go iawn, yn fuddugoliaeth i bobol gyffredin ac yn fuddugoliaeth i bobol ddeche”, meddai.