Yn ôl adroddiadau gan asiantaethau AFP a Ouest France, bu ffrwgwd difrifol brynhawn ddoe ar drên o Calais ar ei ffordd i Lille cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr, gyda chefnogwyr y ddwy wlad yn ymladd.

Fe gafodd sawl un ei anafu, gyda thri o gefnogwyr Cymru yn cael eu harestio.

Bu dwsinau o gefnogwyr o’r ddwy wlad yn ymladd mewn cerbyd, yn ôl swyddogion diogelwch yng ngorsaf Lille Flandres , lle gyrhaeddodd y trên ddechrau’r noson.

Fe ddywedodd y swyddog diogelwch fod heddwas cudd, wedi’i anfon gan heddlu o Brydain, wedi hysbysu’r awdurdodau o’r digwyddiad wedi i’r trên gyrraedd Lille.