Yng nghynhadledd flynyddol Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe wnaeth Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, alw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r diciâu ar fyrder – a hynny ymysg bywyd gwyllt.

Dywedodd fod tystiolaeth wyddonol yn dangos “na ellir gwaredu â’r diciâu mewn gwartheg tra bo’r epidemig ymysg bywyd gwyllt yn cael ei anwybyddu.”

Ychwanegodd fod 36 o wartheg ar gyfartaledd yn cael eu lladd bob diwrnod o’r wythnos waith oherwydd y diciâu, a bod hynny wedi codi 37% ers y llynedd.

‘Dim wedi newid’

Roedd Glyn Roberts hefyd yn feirniadol o’r ymgais i waredu â’r diciâu mewn ardal arbennig yng ngogledd Sir Benfro dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda’r cynllun yn cael ei atal dros dro ym mis Rhagfyr oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

Dywedodd Glyn Roberts nad oes “dim wedi newid” er bod 5,192 o foch daear wedi’u brechu ers 2011 a £3.7 miliwn wedi’i wario.

“Mae’r ffigurau gofidus hyn o ran y nifer o wartheg sy’n cael eu lladd bob dydd yn rhywbeth y byddwn ni’n tynnu sylw ato dros y misoedd nesaf, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a’r rheiny ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn gweithio gyda ni i addysgu’r cyhoedd am ddifrifoldeb y sefyllfa.”

Grantiau Bach Glastir

Yn y gynhadledd hefyd roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghyd â Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop.

Cyhoeddodd Lesley Griffiths heddiw y byddai cyfnod datgan diddordeb mewn Grantiau Bach Glastir gwerth hyd at £5,000 ar gael o Fehefin 27 ymlaen.

Fe bwysleisiodd fod gan ffermwyr rôl bwysig i’w chwarae wrth helpu Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon, a bod y grantiau hyn wedi’u hanelu at y diben hwnnw.

“Bydd cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n plannu coetiroedd bychain, plannu coed ac yn creu ac adfer perthi,” meddai Lesley Griffiths.