Prawf gwaed am glefyd y siwgr Llun: PA
Mae elusen iechyd wedi cyhoeddi heddiw fod ‘epidemig diabetes’ yn wynebu Cymru, am mai dyma’r wlad sydd â’r nifer mwyaf o bobol yn byw gyda’r cyflwr yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae 183,000 o bobol Cymru yn byw gyda’r cyflwr yng Nghymru, ynghyd â 7.1% o bobol 17 oed a throsodd.

Dyma’r ffigwr mwyaf ym Mhrydain wrth i’r elusen nodi fod 235,000 o bobol yn y DU wedi cael diagnosis o glefyd y siwgr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

‘6,000 yn fwy na llynedd’

Mae’r wythnos hon yn nodi ‘Wythnos Diabetes’ yr elusen sy’n parhau rhwng Mehefin 12 ac 16 er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

“Mae yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd o ran ymwybyddiaeth pobol o ddifrifoldeb diabetes, ac mae hyn yn achos pryder i ni,” meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru.

“Erbyn hyn, mae’r nifer fwyaf erioed o bobol yng Nghymru yn byw â diabetes, sef dros 183,000. Mae hynny’n 6,000 yn fwy o bobl nag a oedd yn byw â’r cyflwr yn ystod Wythnos Diabetes y llynedd, ac mae hynny wir yn amlygu maint presennol yr argyfwng,” ychwanegodd.

Codi ymwybyddiaeth

Bwriad ‘Wythnos Diabetes’ yw codi ymwybyddiaeth o wahanol fathau’r cyflwr a’u peryglon.

Mae arolwg diweddar o 1,491 o bobol ar draws y Deyrnas Unedig yn dangos mai dim ond 53% oedd yn ymwybodol y gallai clefyd y siwgr, sy’n cael ei reoli’n wael, arwain at gymhlethdodau fel trawiad ar y galon a strôc.

Yn ogystal, roedd un ymhob tri yn credu bod diabetes Math 1 yn gysylltiedig â bod dros bwysau, ond does dim cysylltiad rhyngddyn nhw.