David Daniel Hayes (llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth i helpu cael hyd i ddyn sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â throseddau rhywiol yn erbyn plant yn Sir Fôn.
Ymddangosodd David Daniel Hayes, 37 oed, o flaen llys ym mis Tachwedd 2015 a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth. Ni ddaeth yn ôl i’r llys wedyn a chyhoeddwyd gwarant ar gyfer ei arestio ym mis Rhagfyr.
Yn y gorffennol, mae Hayes wedi byw yng Ngwynedd, Sir Fôn a Llanrwst, ond mae’r heddlu’n credu ei fod wedi gadael y gogledd bellach.
Mae heddluoedd ledled Prydain wedi cael gwybod am y warant arno, ond does neb wedi cael hyd iddo.
“Dw i’n apelio ar unrhyw un sy’n gwybod lle mae David Daniel Hayes, neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu’r heddlu i gael hyd iddo, gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams.
“Dw i hefyd yn apelio ar Mr Hayes ei hun i ddod ymlaen. Fydd y mater yma ddim yn mynd i ffwrdd ac mae er budd iddo fo gyflwyno’i hun i’r awdurdodau.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan nodi cyfeirnod RM15017536.