Llun: Wicipedia
Mae’r pôl piniwn diweddaraf ar gyfer refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi amlygu canlyniad cyfartal rhwng y bleidlais i aros a gadael.

Gwnaed yr arolwg gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a chymerodd 1,017 o oedolion o Gymru ran ynddo rhwng Mai 30 a Mehefin 2.

Fe wnaeth 41% ddweud y bydden nhw’n pleidleisio i aros yn yr UE, ac fe ddywedodd 41% arall y bydden nhw’n pleidleisio i adael.

Fe wnaeth 18% ymateb gan ddweud nad oedden nhw’n gwybod eto – neu na fydden nhw’n pleidleisio o gwbl.

Daw’r canlyniadau ddiwrnod yn unig cyn y cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio gyda’r dyddiad cau yfory (Dydd Mawrth, Mehefin 7), a llai na thair wythnos tan y refferendwm ei hun ar Fehefin 23.