Mae wyth o fechgyn rhwng 10 a 14 oed wedi cael eu ceryddu am ymddygiad gwrth-gymdeithasol a phedwar wedi cael rhybuddion gwrth-harasio am boenydio teulu ifanc.

Yn ôl Heddlu Gwent, roedd mam wedi bod yn ofni gadael i’w dau blentyn bach chwarae yn yr ardd am fod yr wyth yn taflu wyau, cerrig a darnau arian yno.

Mae un o’r plant yn anabl ac roedd yr ymddygiad wedi bod yn digwydd ers tua mis yn ardal Bryn Derw o dref y Coed Duon.

Yn ôl yr heddlu, roedd busnesau ac ysgolion lleol, gwirfoddolwyr a chamerâu cylch cyfyng i gyd wedi helpu i ddal yr wyth bachgen lleol.