Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd  yn Llanharan yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sul.

Bu farw Michael Jones, 50, o Lanharan ar ôl i’r tractor Fordson glas roedd yn ei yrru ar hyd Hen Ffordd Llanharan droi drosodd.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod yn “fab a brawd cariadus” ac y gallai “droi ei law at drwsio unrhyw beth” mecanyddol.

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl ymhlith ei deulu a’i holl ffrindiau ac unrhyw un oedd yn ei adnabod.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r tractor yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600196124.