Llun: PA
Bydd unig Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint heddiw i hyrwyddo’r neges dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gydag 23 diwrnod yn unig i fynd tan fydd pobol Prydain yn pleidleisio a ydyn nhw am aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu beidio, bydd Jill Evans yn annog pobol ifanc i gofrestru i bleidleisio cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Mae’n rhaid i bobol gofrestru erbyn 7 Mehefin os byddan nhw am daro pleidlais yn y refferendwm eleni ar 23 Mehefin.

Ewro 2016 a Glastonbury

Yn ôl Jill Evans, bydd canlyniad y bleidlais yn cael effaith fawr ar fywydau pobol ifanc yn y dyfodol a gyda llawer o Gymry yn Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 ar 23 Mehefin a gŵyl Glastonbury yn digwydd yr un pryd hefyd, mae pryder y bydd llai yn pleidleisio.

“Mae’n bwysig bod gan bobol ifanc y cyfle i bleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd gan fydd y canlyniad yn effeithio cymaint ar eu dyfodol,” meddai Jill Evans.

Bydd yn annog pobol ifanc i wirio gyda’u swyddfa Gofrestru Etholiadol os ydyn nhw ar y gofrestr bleidleisio.

“Meddyliwch am le byddwch ar 23 Mehefin a lle byddwch yn gallu pleidleisio, felly os ydych chi bant yn Ffrainc yn Ewro 2016, yn Glastonbury neu mewn lleoliad arall i le rydych fel arfer yn pleidleisio, gwnewch yn siŵr bod gennych bleidlais bost neu ddirprwy.”