Awyren Egyptair - tudalen gwefan y cwmni
Roedd y Cymro a fu farw yn namwain awyren Egyptair yn fab i un o sefydlwyr ysbyty preifat adnabyddus yng ngorllewin Cymru.

Roedd Richard Osman, 40, yn un o bedwar o blant yr arbenigwr meddygol Fekri Osman, un o sylfaenwyr Ysbyty Werndale, Bancyfelin ger Caerfyrddin.

Roedd wedi ei addysgu yn Ysgol QE Cambria yn y dre’ ac newydd ddod yn dad am yr ail waith.

‘Caredig, cariadus’

Fe ddywedodd ei frawd, Alistair, wrth ITV fel yr oedd wedi cael galwad gan ei frawd yn sôn am enedigaeth ei ferch ddiwedd mis Ebrill.

“Roedd Richard yn berson caredig, cariadus iawn, yn unplyg. Roedd yn weithiwr caled iawn a fyth yn crwydro o’r llwybr cul.”

Y gred yw ei fod ar yr awyren ar y ffordd i’r Aifft i weithio yn y diwydiant cloddio aur – roedd yn ddaearegwr.

Ymosodiad?

Mae ei frawd yn credu mai ymosodiad gan frawychwyr oedd yn gyfrifol am ddiflaniad yr awyren rhwng Ynys Creta a’r Aifft.

Mae awdurdodau’r Aifft a Rwsia hefyd yn amau hynny – fe gafodd awyren o Rwsia ei chwalu gan ffrwydrad uwchben yr Aifft yn hydref llynedd.

Ond hyd yn hyn, does dim cadarnhad na fawr o fanylion am ffawd yr awyren, heblaw ei bod wedi diflannu’n sydyn ar y sgriniau radar tua chanol nos, nos Fercher.

Fe gafodd 56 o deithwyr eu lladd, a 10 o griw.